Image showing the River Wye From Symonds Yat

Paul Jefford, Prif Swyddog Gweithredu (PSG) y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (GRhA)

SRS Chief Operating Officer Paul Jefford

Mae gan Paul fwy na 25 mlynedd o brofiad yn arwain gweithrediadau technoleg, seiberddiogelwch, gwasanaethau cwmwl a seilwaith allweddol ar draws sefydliadau yn y sector preifat ac yn y sector cyhoeddus.

Mae Paul yn ymuno â thîm gweithredol y GRhA yn dilyn swyddi uwch arweinyddiaeth fyd-eang yn y maes technoleg a seiberddiogelwch. Ei swydd ddiweddaraf oedd gyda Verifone, lle arweiniodd Global Cloud, seiberddiogelwch a gweithrediadau adfer yn dilyn trychineb, yn cefnogi gwasanaethau taliadau sy’n cael eu rheoleiddio’n llym. Ymhlith ei gyfrifoldebau oedd llwyfannau sy’n prosesu dros 14 biliwn o drafodion yn flynyddol, gweithredu amgylcheddau cwmwl preifat a chyhoeddus sydd ar gael yn eang, a sicrhau cydymffurfiaeth ar draws 22 o systemau taliadau'r Diwydiant Cardiau Talu (PCI) ledled y byd. Ar ddechrau ei yrfa, gweithiodd mewn rolau uwch yn y maes seilwaith a gweithrediadau mewn sefydliadau sy’n cynnwys Barclays, ING Direct, Arqiva a Hewlett-Packard, yn ogystal â rolau yn y sectorau amddiffyn a’r diwydiant awyrennau.

Yn ei rôl fel Prif Swyddog Gweithredu, mae Paul yn gyfrifol am lywio mentrau Digidol a Data strategol y GRhA, a gwella gweithrediad y gwasanaeth o ran effeithlonrwydd, dibynadwyedd a pherfformiad. Mae gan Paul hanes profedig o ddatblygu timau effeithiol, cryfhau strwythurau llywodraethu, a darparu gwasanaethau dibynadwy sy’n hanfodol a hollbwysig mewn amgylcheddau cymhleth sy’n cael eu rheoleiddio’n helaeth.

Mae Paul yn cael ei gydnabod am alinio amcanion technoleg a diogelwch â nodau sefydliadol ehangach, ac am symleiddio risgiau gweithredol a risgiau seiber cymhleth eu natur, i greu penderfyniadau ymarferol ar gyfer uwch swyddogion gweithredol ac aelodau’r bwrdd. Gwerthfawrogir ef am ei ymagwedd gydweithredol a phragmatig at arweinyddiaeth, ac un sy’n canolbwyntio bob amser ar wasanaethau dibynadwy y gall defnyddwyr ymddiried ynddynt.