Image showing the River Wye From Symonds Yat

Ymwadiad

Cyffredinol

Mae'r Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon (www.srswales.com) yn gyfredol ac yn gywir, ond nid yw’n gallu derbyn unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol dros unrhyw wallau neu unrhyw wybodaeth sydd wedi ei hepgor. Mae SRS yn cadw'r hawl i wneud newidiadau heb rybudd. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw wybodaeth ar ein tudalennau yr ydych yn credu ei bod yn anghywir neu'n amhriodol, gofynnwn yn garedig i chi roi gwybod i ni trwy e-bost - srscomms@srswales.com.

Materion yn Ymwneud â Firysau

Mae SRS yn gwneud pob ymdrech i wirio gwybodaeth sydd ar gael i'w lawrlwytho oddi ar y wefan hon am firysau. All SRS ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled neu niwed a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd wedi'i lawrlwytho, ac rydym yn argymell i ddefnyddwyr ail-wirio'r holl ddeunyddiau a lawrlwythwyd gyda'u meddalwedd gwirio firws eu hunain. 

Gwefannau Trydydd Parti

Er hwylustod i chi, gall SRS ddarparu dolenni ar y wefan hon, at wefannau sy’n cael eu rhedeg gan endidau eraill. Os ydych chi'n defnyddio'r gwefannau hyn, byddwch yn gadael y wefan hon. Os ydych yn penderfynu ymweld ag unrhyw wefan yn y dolenni, rydych chi'n gwneud hynny ar eich risg eich hun ac mae'n gyfrifoldeb arnoch chi i gymryd pob cam i’ch amddiffyn eich hun rhag firysau neu elfennau dinistriol eraill. Nid yw SRS yn gwneud unrhyw warant nac yn cynnig unrhyw sylwadau ynglŷn ag unrhyw wefannau yn y dolenni, ac nid yw'n ardystio unrhyw wefannau sydd yn y dolenni na'r wybodaeth sy'n ymddangos arnynt, nac unrhyw un o'r cynhyrchion neu wasanaethau a ddisgrifir arnynt. Nid yw’r dolenni yn awgrymu bod SRS yn cymeradwyo nac yn gysylltiedig ag unrhyw nod masnach, enw masnachu, logo neu symbol hawlfraint a ddangosir yn y dolenni neu y gellir mynd atynt trwy’r dolenni, na’i fod wedi'i awdurdodi'n gyfreithiol i’w defnyddio, na bod unrhyw wefan yn y dolenni wedi'i hawdurdodi i ddefnyddio unrhyw nod masnach, enw masnachu, logo neu symbol hawlfraint SRS. 

Diwygiadau

Gallai SRS adolygu'r Telerau hyn ar unrhyw adeg trwy ddiweddaru'r wybodaeth hon. Fe'ch cynghorir i ymweld â'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i edrych dros y Telerau sy’n gyfredol ar y pryd, oherwydd maen nhw’n eich rhwymo. Gallai hysbysiadau cyfreithiol neu delerau a ddynodwyd yn benodol sydd ar dudalennau penodol ar wefan SRS ddisodli rhai o’r darpariaethau yn y Telerau hyn.

Diwygiwyd Ddiwethaf: 23/09/2025