Image showing the River Wye From Symonds Yat

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Gwefan y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS)

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.srswales.com.

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS) Cymru. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu: 

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau’r porwr neu’r ddyfais
  • chwyddo hyd at 400% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio trwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall

Mae cyngor ar AbilityNet am sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes anabledd gennych.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?/strong> 

Er mwyn helpu cymaint o bobl â phosibl, rydym wedi bod yn defnyddio'r gofynion Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.2. Mae'r canllawiau hyn yn cael eu cydnabod ar draws y byd fel y safon aur ar gyfer gwneud gwefan yn hygyrch a sicrhau bod pawb yn gallu ei defnyddio. Rydym wedi dewis targedu gofyniad WCAG 2.2 AA ar gyfer ein holl eiddo ar gyfer y we. 

Adborth a gwybodaeth gyswllt 

Os ydych chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau sydd ddim wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu'n teimlo nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch trwy:

  • E-bost: srscomms@srswales.com
  • Ffôn: 01495742000
  • Neuadd y Sir, Y Radur, Brynbuga, NP15 1GA

Os oes angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille, defnyddiwch y manylion cyswllt uchod.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 10 diwrnod.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon 

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â’r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae SRS wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

Statws cydymffurfio

Profwyd y wefan yn erbyn safon AA 2.2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AA.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd 

Byddwn yn cynnal archwiliad llawn ac yn adolygu'r datganiad hwn yn flynyddol, a byddwn hefyd yn cynnal archwiliad llawn ac yn diweddaru'r datganiad hwn yn dilyn unrhyw newidiadau o bwys i'r wefan.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn  

Paratowyd y datganiad hwn ar 24/09/2025. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 24/09/2025. 

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 23/09/2025 yn erbyn safon WCAG 2.2 AA. 

Cynhaliwyd y prawf gan ein tîm datblygu mewnol gan ddefnyddio'r estyniadau porwr "axe DevTools" a "WAVE" i wirio pob tudalen am broblemau posibl.