Image showing the River Wye From Symonds Yat

Polisi Cwcis

Sut yr ydym yn defnyddio cwcis

Mae SRS yn defnyddio cwcis i wella profiad y defnyddiwr, gan sicrhau bod tudalennau'n ymateb i feintiau dyfeisiau gwahanol. Yma, cewch ragor o wybodaeth am y ffordd yr ydym yn eu defnyddio. 

Beth yw cwcis?

Mae cwcis yn ffeiliau bach, diniwed a roddir ar yriant caled eich cyfrifiadur neu yng nghof eich porwr pan fyddwch yn ymweld â gwefan.

Beth y mae cwcis yn ei wneud?

Mae cwcis yn helpu i wneud y rhyngweithio rhwng defnyddwyr a gwefannau yn gyflymach ac yn haws. Yr hyn nad yw cwcis yn ei wneud yw storio unrhyw wybodaeth bersonol neu gyfrinachol amdanoch chi.

A yw cwcis yn ddiogel?

Ydyn, mae cwcis yn ffeiliau testun diniwed. Dydyn nhw ddim yn gallu edrych i mewn i'ch cyfrifiadur neu ddarllen unrhyw wybodaeth bersonol neu ddeunydd arall ar eich gyriant caled. Dydy cwcis ddim yn gallu cario firysau na gosod unrhyw beth niweidiol ar eich cyfrifiadur. 

Pam ddylwn i gadw cwcis ymlaen?

Rydym yn eich cynghori i gadw cwcis ymlaen pan fyddwch chi’n ymweld â'n gwefan oherwydd bod rhannau o'r wefan yn dibynnu arnyn nhw i weithio'n iawn. 

Mathau o gwcis rydyn ni’n eu defnyddio

Fel y rhan fwyaf o wefannau, mae gwefan SRS yn defnyddio cwcis parhaus. Dydy’r cwcis hyn ddim yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol sy’n gallu datgelu pwy ydych chi, ac maen nhw yno dim ond i sicrhau bod y wefan yn gweithio yn ôl y disgwyl.

Cwcis parhaus

Rydyn ni’n defnyddio rhai cwcis sy'n barhaus, sy'n golygu eu bod yn para am gyfnod ar ôl eich sesiwn. Mae cwcis parhaus yn helpu ein gwefan i'ch cofio fel defnyddiwr bob tro y byddwch chi'n defnyddio'r un cyfrifiadur i ymweld â ni eto.

Cwcis a ddefnyddir ar hyn o bryd 

Mae'r wefan hon yn defnyddio'r cwcis canlynol:

Math o Gwci Enw'r Cwci Data a Gesglir Diben y Cwci Hyd Storio Dewisiadau Defnyddiwr
Swyddogaethol SSESS Dim Darparu gwefan ymatebol 1 mis Dim - angen
Swyddogaethol Klaro! Caniatâd Cwcis I arbed statws caniatâd cwcis 180 diwrnod Dim - angen

Sut yr ydym yn cael caniatâd i ddefnyddio cwcis

Mae caniatâd yn cael ei roi trwy faner cwcis sy'n cael ei harddangos pan fyddwch yn defnyddio’r wefan am y tro cyntaf. Mae'r faner yn dangos categorïau cwcis, a gallwch ddewis a ydych chi’n derbyn pob categori, yn derbyn y cwcis angenrheidiol yn unig, neu’n eu gwrthod. 

Troi cwcis ymlaen neu i ffwrdd

Unwaith y bydd dewisiadau cwcis wedi'u gosod, bydd eicon clo yn ymddangos yng nghornel chwith isaf y dudalen. Bydd clicio ar yr eicon hwn yn gadael ichi reoli eich dewisiadau cwcis. Gallwch hefyd osod eich porwr i wrthod pob cwci, i ganiatáu i wefannau 'dibynadwy' yn unig eu hanfon, neu i dderbyn dim ond y cwcis hynny o wefannau rydych chi'n eu defnyddio ar hyn o bryd.

Rydyn ni’n argymell nad ydych yn blocio pob cwci, oherwydd mae rhannau o'n gwefan yn dibynnu arnyn nhw i weithio'n iawn. 

I ddarganfod sut i droi cwcis ymlaen ac i ffwrdd yn eich porwr, dewiswch eich porwr isod:

Gweld manylion ar gyfer Google Chrome
Gweld manylion ar gyfer Internet Explorer
Gweld manylion ar gyfer Safari
Gweld manylion ar gyfer Firefox

Am ragor o wybodaeth am gwcis a sut i'w rheoli, ewch i www.aboutcookies.org 

Diwygiwyd Ddiwethaf: 23/09/2025