PN167 – Gwefan y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS) (f1.0 Byw)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch chi, sut rydym yn eu defnyddio, eich hawliau mewn perthynas â’r data a'r mesurau diogelu sydd ar waith i'w diogelu.
| Maes Gwasanaeth CBST: | Adnoddau |
| Maes Gwaith: | SRS |
| Manylion Cyswllt: | srscomms@srswales.com |
| Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: | Gwefan y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS) |
Rheolydd Data:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
d/o Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
NP4 6YB
Os hoffech godi pryder ynglŷn â thrin eich data personol, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio'r manylion isod:
Ffôn: 01495 762200
E-bost: dpa@torfaen.gov.uk
Mae gwefan y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS) yn adnodd gwybodaeth ar gyfer partneriaid SRS a’i ddarpar gwsmeriaid, ac yn y dyfodol bydd yn cael ei defnyddio i hysbysebu swyddi gwag ac i gyhoeddi newyddion a straeon llwyddiant ar gyfer aelodau o'r cyhoedd. Nod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw amlinellu'r data sy'n cael eu dal yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol trwy'r wefan, a nodi sut y maen nhw’n cael eu prosesu, eu cadw a'u dinistrio.
1) Pwy sy'n rhoi eich data i'r Cyngor?
Dydyn ni ddim yn casglu unrhyw wybodaeth pan fyddwch chi’n ymweld â'n gwefan, a byddwn yn casglu gwybodaeth dim ond os byddwch yn dewis cysylltu â ni i wneud ymholiad trwy e-bost neu dros y ffôn.
2) Sut y mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth hon:
Dydy gwefan SRS ddim yn darparu cyfleuster ar gyfer casglu data. Os byddwch yn dewis cysylltu ag SRS gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a'r rhif ffôn a gyhoeddir, yna’r wybodaeth a gesglir fyddai’r wybodaeth gyswllt a manylion yr ymholiad, at ddibenion datrys yr ymholiad a rhoi adborth yn unig.
3) Pa wybodaeth y mae'r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Dim ond os ydych chi’n cysylltu ag SRS y bydd yn casglu gwybodaeth, a bydd y wybodaeth hon wedi’i chyfyngu i:
- Gwybodaeth gyswllt, e.e. enw, sefydliad, cyfeiriad e-bost
- Yr ymholiad rydych chi'n ei godi
Os nad oes angen eich gwybodaeth gyswllt arnom i ddatrys yr ymholiad, nid oes rhaid i chi roi’r wybodaeth hon.
4) Pam y mae'r Cyngor yn prosesu eich data personol?
O dan Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU), y seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw:
Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol.
Mae gennym fudd cyfreithlon.
5) Categorïau arbennig o ddata personol:
Efallai y byddwn yn casglu data categori arbennig mewn perthynas â'ch iechyd os byddwch yn codi mater ynglŷn â hygyrchedd y wefan gyda ni. Dydyn ni ddim yn casglu unrhyw ddata troseddol.
6) Pwy sydd â mynediad at eich data?
Mae eich data yn cael eu rhannu'n fewnol gyda'r staff priodol yn unig, pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn iddynt gyflawni eu rolau.
7) Ydy’r Data’n Cael eu Trosglwyddo Allan o'r DU?
Nac ydyn
8) Sut y mae'r Cyngor yn cadw eich data yn ddiogel?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw'r data y mae'n eu prosesu yn cael eu colli, eu dinistrio’n ddamweiniol, eu camddefnyddio neu eu datgelu. Mae mynediad at y data wedi'i gyfyngu yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.
- Bydd manylion ymholiadau a geir yn cael eu cofnodi a'u rheoli trwy system Rheoli Gwasanaeth SRS, sy'n cael ei chadw ar rwydwaith diogel.
- Byddai unrhyw ymholiadau cyffredinol yn cael eu cadw yn y system fwyaf addas ar ein rhwydwaith diogel.
9) Pa mor hir y mae'r Cyngor yn cadw eich data?
Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am y cyfnod sy'n angenrheidiol yn unig, a bydd yn dilyn safonau’r sefydliad a’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw, bydd y Cyngor yn dinistrio’r data, neu’n cael eu gwared, yn ddiogel, yn unol ag amserlenni cadw.
10) Ydyn ni'n gwneud penderfyniadau awtomataidd/proffilio gyda'ch data?
Nac ydyn
11) Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:
- Yr hawl i fynediad - i gael copi o'ch data ar gais
- Yr hawl i gywiro – ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor newid data sy’n anghywir neu’n anghyflawn
- Yr hawl i Wrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - o dan rai amgylchiadau gallwch ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddileu eich data, neu i beidio â’u prosesu, er enghraifft pan nad yw'r data’n angenrheidiol mwyach at ddibenion prosesu
- Yr hawl i gludo data – i gael a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
- Yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (lle rhoddwyd caniatâd)
- Yr hawl i wybod beth yw canlyniadau methu â rhoi data i'r Cyngor
- Yr hawl i gael gwybod am unrhyw Benderfyniadau Awtomataidd, gan gynnwys proffilio, a chanlyniadau hyn i chi
- Yr hawl i gwyno i awdurdod goruchwylio (Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth)
Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â’r: Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS), Bloc J, Neuadd y Sir, Radur, Brynbuga, NP15 1GA neu srscomms@srswales.com
Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Cymru@ico.org.uk.
