Beth yw Sonic Brief? Mae Sonic Brief yn blatfform prosesu sain ar y cwmwl ac mae’n trawsnewid recordiadau llais yn adroddiadau strwythuredig y gellir gweithredu arnynt. Mae wedi'i adeiladu ar gyfer y sector cyhoeddus ac yn awtomeiddio’r gwaith o drawsgrifio a chrynhoi, gan arbed amser a gwella ansawdd y data. Mae’n ddigon hyblyg i gael ei ffurfweddu i gwrdd ag unrhyw achos defnydd trwy'r teclyn golygu promptio AI sydd wedi'i adeiladu i mewn. Mae Fersiwn SRS Cymru yn symud y fersiwn sylfaenol o'r prawf cysyniad i gynnyrch sylfaenol hyfyw sydd â nodweddion sydd wedi’u dylunio ar gyfer mentrau a sefydliadau mwy o faint. Mae hefyd yn cynnwys wyneb symudol ar gyfer gweithwyr rheng flaen, y gellir ei ddefnyddio naill ai all-lein neu ar-lein ac ar Android ac iOS.
Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:
- Recordio sain ar sail porwr (nid oes angen dyfeisiau ychwanegol)
- Dilysu ar gyfer sefydliadau mawr gyda Microsoft Entra ID (Azure AD)
- Llifoedd gwaith trawsgrifio hyblyg (trawsgrifiadau sain neu rai sy’n bodoli yn barod)
- Dadansoddeg ac adrodd uwch
- Archwilio cynhwysfawr er mwyn cydymffurfio
- Dyluniad sy’n ymateb i ddyfeisiau symudol
- Mesurau rheoli gweinyddol a diogelwch uwch
- Wyneb symudol dewisol (y gellir ei ddefnyddio all-lein ac ar-lein - yn cefnogi Android ac iOS)
Ciplun sgrin - Coesiadau Enghraifft
Ble mae'n cael ei ddefnyddio? Rydyn ni wedi lansio Sonic Brief ym maes Gofal Cymdeithasol Plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ac mae yna gynlluniau i'w gyflwyno i Sir Fynwy, Casnewydd a Blaenau Gwent yn fuan. Rydyn ni hefyd yn archwilio achosion defnydd newydd ar draws Adnoddau Dynol, y maes cyfreithiol, budd-daliadau a mwy.
Ymdrech Gymunedol Go Iawn Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o arloesi yn y sector cyhoeddus – fe’i datblygwyd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, diwydiannau preifat, a phartneriaid ym maes technoleg.
Diolch yn arbennig i:
Dechrau Arni neu Gael Cymorth
Dewch i ni barhau i yrru arloesi yn y sector cyhoeddus - gyda'n gilydd!
Simon Harris
Saernïaeth Mentrau Mawr a Thrawsnewid Digidol